SL(6)682 – Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2025

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiadau o benderfyniadau a wneir, a hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir, gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”) o dan adrannau 45 a 78 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”).

Mae rheoliadau 3 a 4 yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud cais am adolygiad.

Mae rheoliad 5 yn pennu’r argymhellion y caniateir eu gwneud gan yr adolygydd penderfyniadau a’r seiliau dros yr argymhellion hynny.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn ymdrin â phwerau a dyletswyddau’r adolygydd penderfyniadau, y ceisydd a’r Comisiwn yn ystod y broses adolygu.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymateb i argymhelliad y mae’r adolygydd penderfyniadau yn argymell ynddo fod y Comisiwn yn ailystyried ei benderfyniad, hysbysiad neu gyfarwyddyd. 

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn diffinio’r "ceisydd". Felly, nid yw wedi’i nodi’n glir ar wyneb y Rheoliadau hyn pwy all wneud cais am adolygiad.

 

 

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 5(b) yn darparu y caiff yr adolygydd penderfyniadau argymell y dylai'r Comisiwn ailystyried ei "benderfyniad" mewn pedair sefyllfa benodol. A yw rheoliad 5(b) yn berthnasol i benderfyniadau, hysbysiadau a chyfarwyddydau, neu benderfyniadau yn unig? Gofynnir yr un peth mewn perthynas â'r cyfeiriad at “y penderfyniad” yn rheoliad 5(b)(iv).

Os yw rheoliad 5(b) a rheoliad 5(b)(iv) yn berthnasol i benderfyniadau, hysbysiadau a chyfarwyddydau, gofynnir pam nad yw hyn wedi'i nodi yn yr un modd â rheoliad 5(a), sy'n cyfeirio at “y penderfyniad, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd”. Os yw rheoliad 5(a) a (b) yn gymwys i benderfyniadau, hysbysiadau a chyfarwyddydau’r Comisiwn, gallai’r defnydd gwahanol o dermau ym mharagraffau (a) a (b) achosi dryswch, a gallai arwain at ddehongli anghywir, o bosibl.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Rheoliadau’n nodi bod Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 79(3) a (4) o Ddeddf 2022. Fodd bynnag, mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud “yn unol ag adrannau 79(3), 79(4) a 143(2)(a) o Ddeddf 2022".

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro pam fod adran 143(2)(a) wedi'i rhestru yn y Memorandwm Esboniadol, ond nid yn y Rheoliadau eu hunain.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r holl bwyntiau adrodd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

10 Rhagfyr 2025